English version | Sign up | Contact us



Rhowch fywyd yn rhodd

Trawsblaniadau yw un o lwyddiannau mwyaf gwyrthiol meddygaeth fodern. Ond maent yn dibynnu’n llwyr ar haelioni pobl a’u teuluoedd sy’n fodlon rhoi’r rhodd arbennig hwn i achub bywyd eraill.

Gall un rhoddwr roi bywyd i sawl person ac adfer golwg dau arall. Y mwyaf o bobl sy’n addo rhoi eu horganau ar ôl iddynt farw, y mwyaf a fydd yn elwa.

Gadewch ddyfodol i rywun

Ni fu’r angen am roddwyr erioed mor bwysig. Er gwaethaf camau breision mewn meddygaeth a llwyddiant ysgubol llawdriniaethau trawsblannu, mae pobl yn dal i farw wrth aros.

Ceir prinder dybryd o organau ac mae’r bwlch rhwng nifer y bobl sy’n aros am drawsblaniad a nifer yr organau a roddir yn tyfu.

Ymgyrch Gymreig y gwanwyn 2007-03-30

Lansiodd UK Transplant ymgyrch bostio taflenni i hybu rhoddi organau a thrawsblannu yng Nghymru. Mae'r taflenni yn cael eu hanfon allan i 278,237 aelwyd yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe ym mis Ebrill 2007 a byddant yn cyrraedd rhyw draean o boblogaeth Cymru.

Bydd yr ohebiaeth yn rhoi gwybodaeth am roddi organau a bydd yn cynnwys ffurflen gofrestru i ymuno â chofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG (CRhO).

Mwy o wybodaeth:

  • Datganiad i'r wasg
  • Ystadegau rhoddi organau yng Nghymru (yn Saesneg)
  • Clip radio yr ymgyrch Gymreig