Cymraeg | Sign up | Contact us



Yn ddi-os, mae trawsblaniadau’n un o wyrthiau mawr meddygaeth fodern. Ond maent yn gwbl ddibynnol ar haelioni rhoddwyr a’u teuluoedd sy’n barod i roi rhodd a fydd yn achub neu’n trawsnewid bywyd rhywun arall.

Gall un rhoddwr achub bywyd nifer o bobl, gall adfer golwg dau berson a gwella ansawdd bywyd llawer mwy. Po fwyaf o bobl sy’n cytuno i roi eu horganau a’u meinwe ar ôl marw, po fwyaf o bobl fydd yn elwa. Trwy ddewis ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG gallech helpu i sicrhau bod bywyd yn mynd yn ei flaen i bobl eraill.

Mae ymuno â’r gofrestr yn cofnodi eich caniatâd i gael defnyddio eich organau a meinwe ar gyfer eu trawsblannu ar ôl i chi farw.

Pan fyddwch yn cofrestru mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth y bobl sydd agosaf atoch am eich penderfyniad.

Mae penderfynu a ydych chi am fod yn rhoddwr ar ôl i chi farw’n rhywbeth personol iawn ac mae’n bwysig bod pawb yn gwneud ei benderfyniad ei hun. Mae’r llyfryn hwn yn ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir am roi organau a meinwe ac mae’n ceisio tawelu unrhyw amheuon a all fod gennych yngl ^yn â gadael rhodd o fywyd i eraill ar ôl i chi farw.

   Cynnwys

  1. Beth yw rhoi organau?
  2. Pa bryd y digwyddodd y trawsblaniadau organ cyntaf?
  3. Pa organau y gellir eu trawsblannu?
  1. Beth mae rhoi meinwe'n ei olygu?
  2. A yw ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG yn golygu fy mod yn cytuno i roi fy wyneb neu aelodau'r corff i gael eu trawsblannu?
  1. Pam fod angen mwy a mwy o roddwyr?
  2. Sut fyddant yn gwybod eich bod wedi marw go iawn?
  3. A ydynt yn gallu eich cadw'n fyw ar beiriannau?
  1. A fyddant yn gadael i chi farw os ydynt yn gwybod eich bod am roi'ch organau?
  2. A allaf roi organau neu feinwe os byddaf yn marw yn yr uned frys?
  1. Allwch chi roi organ tra'ch bod yn fyw?
  2. Pam fod angen i mi benderfynu a ydw i am fod yn rhoddwr?
  3. Beth yw Cofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG?
  4. A oes angen i mi gofrestru os oes gennyf gerdyn rhoi organau?
  5. A fydd fy enw a fy nghyfeiriad yn cael eu rhoi i sefydliadau eraill?
  6. Nid wyf yn cofio a wyf wedi cofrestru eisoes, beth ddylwn ei wneud?
  1. Pwy fyddai'n derbyn fy organau a fy meinwe pe byddwn yn penderfynu bod yn rhoddwr?
  2. A yw rhoddwyr yn cael eu sgrinio i weld a oes ganddynt glefyd trosglwyddadwy?
  1. Alla i fod yn rhoddwr os oes gennyf gyflwr meddygol ar hyn o bryd?
  2. Alla i fod yn rhoddwr os yw fy nghynnig i roi gwaed wedi'i wrthod?
  3. All plentyn roi organ neu feinwe ar ôl ei farwolaeth?
  4. A oes lleiafswm oed ar gyfer ymuno â Chofrestr Rhoddwyr y GIG?
  1. Beth fyddai'n digwydd os yw fy rhieni wedi fy nghofrestru a minnau'n rhy ifanc i wybod?
  1. All pobl hŷn fod yn rhoddwyr?
  2. A oes gwrthwynebiadau crefyddol i roi organau a meinweoedd?
  3. A yw lliw fy nghroen yn gwneud gwahaniaeth?
  4. Os oes rhywun mewn angen dirfawr am organ, a oes unrhyw bwrpas mewn gwneud apêl arbennig?
  5. Alla i gytuno i roi rhai organau neu feinweoedd a pheidio rhoi eraill?
  1. Alla i gytuno i roi i rai pobl a ddim i eraill?
  2. All fy organau a meinweoedd gael eu rhoi i glaf preifat?
  3. A yw bod yn rhoddwr yn golygu oedi yn nhrefniadau'r angladd?
  1. All fy organau neu feinwe gael eu rhoi i rywun mewn gwlad arall?
  2. A yw rhoi organau a meinweoedd yn golygu y bydd y corff yn cael ei anffurfio?
  3. A fydd yn bosibl cael gweld y corff wedyn?
  4. A oes rhaid i deulu'r rhoddwr dalu am gost y llawdriniaeth?
  1. A fydd y GIG yn talu costau' r angladd?
  1. Mae perthynas i mi am fod yn rhoddwr. Beth sydd angen i mi ei wneud pan fyddant yn marw?
  2. A fydd yr organau neu feinweoedd sy'n cael eu rhoi ar gyfer eu trawsblannu'n cael eu defnyddio i ddibenion ymchwil?
  3. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng rhoi organau a chadw organau?
  1. Alla i adael fy nghorff ar gyfer addysg feddygol neu ymchwil ar ôl i mi roi fy organau?
  2. A oes modd i deulu'r rhoddwr gael gwybod pwy oedd y derbynnydd?
  1. Pam ddylwn i drafod fy nymuniadau gyda fy nheulu?
  2. Beth fyddai'n digwydd pe bai fy nheulu'n gwrthwynebu?
  3. Beth fydd yn digwydd os nad oes gen i deulu na pherthnasau eraill?
  4. Beth yw perthynas gymhwysol?
  5. A ddylwn i roi fy nymuniadau yn fy ewyllys?
  6. A fydd yn bosibl i mi newid fy meddwl?
  1. All person sydd wedi marw roi had neu wyau i'w defnyddio rywbryd yn y dyfodol?
  2. All pobl brynu neu werthu organau?
  1. Mi hoffwn roi gwaed, beth ddylwn ei wneud?
  2. Mae gen i ddiddordeb mewn rhoi mêr esgyrn, beth ddylwn ei wneud?

If you have any other questions we will do our best to answer them. Send them to the UKT Communications Directorate