Cymraeg | Sign up | Contact us



24All pobl hyn fod yn rhoddwyr?

Gallant, yn achos y gornbilen a rhai mathau eraill o feinwe, nid yw oed yn gwneud gwahaniaeth. Yn achos yr organau eraill cyflwr corfforol y person, ac nid ei oed, yw'r ffactor a fydd yn penderfynu a fydd yn addas. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol yn penderfynu ym mhob achos pa organau a meinweoedd sy'n addas. Mae organau a meinweoedd pobl yn eu 70au ac 80au'n cael eu trawsblannu'n llwyddiannus.

25A oes gwrthwynebiadau crefyddol i roi organau a meinweoedd?

Nac oes. Nid oes yr un o brif grefyddau’r DU yn gwrthwynebu rhoi organau a meinweoedd na thrawsblannu. Os oes gennych chi unrhyw amheuon, dylech eu trafod gyda’ch cynghorydd ysbrydol neu grefyddol.

26A yw lliw fy nghroen yn gwneud gwahaniaeth?

Nac ydy. Mae organau, fodd bynnag, yn cael eu cydweddu yn ôl grwp gwaed a math y feinwe (yn achos trawsblannu arennau) a thrawsblaniadau gyda’r cydweddiad gorau yw’r rhai mwyaf llwyddiannus. Mae cleifion o’r un grwp ethnig yn fwy tebygol o fod yn gydweddiad agos. Bydd nifer fach o bobl gyda mathau prin o feinwe’n gorfod derbyn organ sy’n cydweddu’n dda gan rywun o’r un tarddiad ethnig, felly mae’n bwysig fod pobl o bob cefndir ethnig yn rhoi organau.

Mae trawsblaniadau llwyddiannus yn digwydd rhwng pobl o wahanol grwpiau ethnig os bydd y gofynion cydweddu’n ddigon da.

27Os oes rhywun mewn angen dirfawr am organ, a oes unrhyw bwrpas mewn gwneud apêl arbennig?

Oes a nac oes. Bydd unrhyw apêl arbennig yn aml yn arwain at fwy o bobl yn cytuno i fod yn rhoddwr a gall olygu cynnydd yn nifer yr organau sydd ar gael.

Fodd bynnag, ni fydd unrhyw apêl gan y teulu yn y papurau newydd ac ar y teledu’n golygu y bydd organ ar gael ar unwaith i’r person sy’n destun yr apêl. Bydd y claf yn dal i fod ar y rhestr drawsblaniadau, fel pawb arall, a bydd y rheolau sy’n ymwneud â chydweddu a dyrannu organau gan roddwyr yn dal yr un mor berthnasol.

28Alla i gytuno i roi rhai organau neu feinweoedd a pheidio rhoi eraill?

Gallwch. Gallwch nodi pa organau yr ydych yn dymuno’u rhoi. Rhowch dic yn y blychau priodol ar ffurflen Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG neu ar y cerdyn rhoddwyr, a dywedwch beth yw eich penderfyniad wrth y rhai agosaf atoch.

Back to organ donation - your questions...