23Beth fyddai’n digwydd os yw fy rhieni wedi fy nghofrestru a minnau’n rhy ifanc i wybod?
Mae gan blant sydd o dan 12 oed yn yr Alban ac o dan oed 18 yng ngweddill y DU ar adeg eu cofrestru farc wrth ochr eu cofnod ar y gofrestr. Bydd y marc hwn yn cael ei ddileu pan fyddwch yn ail-gofrestru yn 18 oed neu 12 oed (yn yr Alban). Os na fydd y marc wedi’i ddileu, gofynnir am ganiatâd y person sy’n cyfrif fel eich perthynas agosaf (gweler Cwestiwn 45) ar adeg eich marwolaeth.