19Alla i fod yn rhoddwr os oes gennyf gyflwr meddygol ar hyn o bryd?
Gallwch, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. Nid yw bod â chyflwr meddygol o reidrwydd yn atal person rhag bod yn rhoddwr organ neu feinwe. Gwneir y penderfyniad a yw rhai organau neu feinweoedd yn addas ar gyfer trawsblaniad gan weithiwyr gofal iechyd proffesiynol, a byddant yn ystyried eich hanes meddygol.
Dim ond dau gyflwr sy’n golygu na ellir rhoi unrhyw organ o dan unrhyw amgylchiadau. Ni all person roi organ na meinwe os oes ganddynt HIV, neu os oes ganddynt, neu os oes amheuaeth bod ganddynt CJD.
20Alla i fod yn rhoddwr os yw fy nghynnig i roi gwaed wedi’i wrthod?
Gallwch. Bydd y penderfyniad a yw unrhyw neu bob organ neu feinwe’n addas ar gyfer eu trawsblannu’n cael ei wneud bob amser gan arbenigwr, gan ystyried eich hanes meddygol. Efallai bod rhesymau penodol pam nad oedd modd i chi roi gwaed, er enghraifft, efallai eich bod wedi cael trallwysiad gwaed neu hepatitis yn y gorffennol. Neu efallai na allech roi gwaed ar y pryd oherwydd cyflwr eich iechyd – weithiau bydd rhywbeth mor syml ag annwyd neu feddyginiaeth yn gallu eich rhwystro rhag rhoi gwaed.
21All plentyn roi organ neu feinwe ar ôl ei farwolaeth?
Gall, os yw ef neu hi wedi mynegi awydd i wneud hynny a’u bod yn cael eu hystyried yn gymwys yng ngolwg y gyfraith i wneud penderfyniad o’r fath. Os nad yw eu dymuniadau’n hysbys, byddai’n rhaid cael caniatâd rhiant neu’r person sy’n cyfrif fel y perthynas agosaf (gweler Cwestiwn 45) ar adeg eu marwolaeth. Diffinnir plentyn fel rhywun o dan 16 oed yn yr Alban ac o dan 18 oed yng ngweddill y DU.
22A oes lleiafswm oed ar gyfer ymuno â Chofrestr Rhoddwyr y GIG?
Nac oes. Gall rhieni a gwarcheidwaid gofrestru eu plant a gall plant gofrestru eu hunain. Bydd rhaid i blant sydd o dan 12 oed yn yr Alban ac o dan 18 oed yng ngweddill y DU gael cydsyniad rhiant neu warcheidwad pan fyddant yn cofrestru er mwyn eu galluogi i roi organ neu feinwe.
Mae plant dros 12 oed yn yr Alban yn cael eu hystyried yn gymwys yng ngolwg y gyfraith i gofrestru eu hunain ac nid oes gan riant neu warcheidwad hawl cyfreithiol i atal neu wrthod eu dymuniad.