Cymraeg | Sign up | Contact us



17Pwy fyddai’n derbyn fy organau a fy meinwe pe byddwn yn penderfynu bod yn rhoddwr?

Bydd rhaid i nifer o bethau gydweddu neu fod yn agos iawn i sicrhau trawsblaniad llwyddiannus. Rhaid ystyried ffactorau fel grwp gwaed, oed a phwysau. Yn achos arennau, ffactor bwysig arall yw math y feinwe, sy’n fwy cymhleth na grwp gwaed. Bydd cydweddiad perffaith yn sicrhau gwell canlyniadau.

Mae rhestr genedlaethol, a gedwir ar gyfrifiadur wedi ei sefydlu ar gyfer cleifion sy’n aros am drawsblaniad. Bydd y cyfrifiadur yn canfod y claf sy’n cydweddu orau gydag organ sydd ar gael neu’r uned drawsblannu lle mae’r organ ar gael. Fel arfer, rhoddir blaenoriaeth i’r cleifion sydd â’r angen mwyaf am drawsblaniad. UK Transplant sy’n gyfrifol am redeg y rhestr drawsblaniadau a dyrannu’r organau a roddir. Mae’n gweithio 24 awr y dydd ac mae’n gweithio ar lefel DU gyfan.

Ar achlysuron prin bydd meinwe’n cael ei chydweddu, e.e. o ran maint a math y feinwe, ond fel arall mae ar gael i unrhyw glaf sydd angen trawsblaniad.

18A yw rhoddwyr yn cael eu sgrinio i weld a oes ganddynt glefyd trosglwyddadwy?

Ydyn. Cymerir gwaed gan bob rhoddwr posibl a chynhelir prawf i sicrhau nad oes gan y person glefydau a firysau trosglwyddadwy fel HIV a hepatitis. Bydd teulu’r rhoddwr posibl yn cael gwybod bod angen cynnal y prawf hwn.

Back to organ donation - your questions...