9 A fyddant yn gadael i chi farw os ydynt yn gwybod eich bod am roi’ch organau?
Na fyddant. Bydd y meddygon sy’n edrych ar ôl claf yn gwneud pob ymdrech posibl i achub ei fywyd. Dyna eu dyletswydd cyntaf. Os, er gwaethaf eu holl ymdrechion, bydd y claf yn marw, gellir wedyn ystyried rhoi organau a meinwe a hynny gan dîm cwbl wahanol o arbenigwyr rhoi a thrawsblannu a fydd yn cymryd drosodd.
10 A allaf roi organau neu feinwe os byddaf yn marw yn yr uned frys?
Gallwch, mewn nifer fach o ysbytai, bydd cleifion sy’n cael eu cyhoeddi’n farw pan fyddant yn cyrraedd neu sy’n marw yn yr adran frys yn gallu rhoi organau, yn enwedig arennau, sy’n organau sy’n gallu para am gyfnod hwy nag organau eraill heb ocsigen.
Os yw hyn am ddigwydd, fodd bynnag, bydd rhaid cymryd camau i sicrhau nad yw’r arennau’n dirywio cyn cysylltu â’r perthynas agosaf. Mae hyn yn cynnwys techneg arbennig lle mae hylif cadw arbennig yn cael ei olchi trwy’r organau. Gwneir hyn trwy diwb bychan sy’n cael ei roi mewn gwythïen yng nghesail y forddwyd.
Rhaid gwneud hyn yn fuan iawn ar ôl i’r person farw i sicrhau bod yr organau’n parhau’n addas i’w trawsblannu ac nad yw’r person sydd wedi marw’n colli’r cyfle i roi. Fodd bynnag, ni fydd yr organ yn cael ei rhoi oni bai eich bod chi, yn ystod eich oes, wedi mynegi dymuniad i fod yn rhoddwr, neu fod y person a oedd agosaf atoch pan oeddech yn fyw yn rhoi caniatâd.
Gallwch roi meinwe os byddwch yn marw mewn ysbyty neu beidio, er enghraifft os byddwch yn marw gartref neu mewn hosbis.