6Pam fod angen mwy a mwy o roddwyr?
Pob blwyddyn mae cannoedd o bobl yn marw tra’u bod yn aros am drawsblaniad organ ac mae nifer o rai eraill yn colli eu bywyd cyn iddynt gyrraedd y rhestr trawsblaniadau hyd yn oed. Mae prinder difrifol o organau ac mae’r bwlch rhwng nifer yr organau sy’n cael eu rhoi a nifer y bobl sy’n aros am drawsblaniad yn cynyddu.
Mae trawsblaniadau’n llwyddiannus iawn ac mae disgwyl y bydd nifer y bobl sydd angen trawsblaniad yn cynyddu’n sydyn oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio, y cynnydd mewn arennau sy’n methu, a datblygiadau meddygol sy’n golygu bod mwy a mwy o bobl yn gallu elwa ar drawsblaniad.
Fodd bynnag, mae nifer yr organau sydd ar gael i’w trawsblannu wedi gostwng am nifer o resymau. Dim ond nifer fach iawn o bobl sy’n marw mewn amgylchiadau lle maent yn gallu rhoi eu horganau. Gan fod rhaid trawsblannu organau’n fuan iawn ar ôl i rywun farw, dim ond pobl sydd wedi marw mewn ysbyty all roi eu horganau. Fel arfer daw organau o bobl sydd wedi eu cyhoeddi’n farw tra ar beiriant anadlu mewn adran gofal dwys mewn ysbyty, fel arfer o ganlyniad i waedlif ar yr ymennydd, damwain ddifrifol fel damwain car, neu strôc.
Mae nifer y bobl, yn enwedig pobl iau, sy’n marw mewn amgylchiadau fel hyn yn gostwng, yn bennaf oherwydd gwelliannau gwerthfawr mewn diogelwch ar y ffordd, datblygiadau meddygol wrth drin cleifion ac atal strociau ymhlith pobl ifanc.
Rheswm pwysig arall dros y prinder organau yw bod cymaint o bobl heb ddatgan eu dymuniad i roi organau nac wedi trafod y mater gyda’u teuluoedd. Nid oes digon o bobl wedi ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau y GIG ac sy’n gwneud yn siwr fod eu teulu’n gwybod am eu penderfyniad.
Er mai dim ond ychydig o bobl sy’n marw mewn amgylchiadau a fyddai’n galluogi i’w horganau gael eu defnyddio, gall llawer o bobl roi meinwe ar ôl iddynt farw. Mae datblygiadau gwyddonol a meddygol yn y triniaethau sydd ar gael i gleifion wedi arwain at gynnydd yn yr angen am feinwe sy’n cael ei rhoi.
7Sut fyddant yn gwybod eich bod wedi marw go iawn?
Nid yw organau’n cael eu tynnu o gorff i’w trawsblannu tan fod y person wedi marw. Mae marwolaeth yn cael ei chadarnhau gan feddyg neu feddygon sy’n gwbl annibynnol o’r tîm trawsblannu. Mae marwolaeth yn cael ei chadarnhau yn union yr un ffordd mewn pobl sy’n rhoi organau ag y mae yn achos pobl eraill.
Mae rhan fwyaf y rhoddwyr organau’n bobl sy’n marw o ganlyniad i waedlif ar yr ymennydd, anaf difrifol i’r pen, neu strôc ac sydd ar beiriant anadlu yn uned gofal dwys yr ysbyty. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd marwolaeth yn cael ei chadarnhau trwy wneud profion ar fôn yr ymennydd. Mae safonau a gweithdrefnau eglur a phendant iawn ar gyfer y profion hyn ac fe’u cynhelir bob amser gan ddau feddyg profiadol.
Mae’r peiriant anadlu’n cynhyrchu ocsigen sy’n cadw’r galon i guro a’r gwaed i gylchredeg ar ôl marwolaeth. Gelwir y rhoddwyr hyn yn rhoddwyr curiad calon. Fel arfer bydd organau megis y galon, sy’n dirywio’n gyflym iawn heb gyflenwad ocsigen, yn cael eu rhoi gan roddwr curiad calon yn unig.
Gall cleifion sy’n marw yn yr ysbyty, ond nad ydynt ar beiriant anadlu, roi eu harennau mewn rhai amgylchiadau, ac mewn rhai amgylchiadau gallant hefyd roi organau eraill. Gelwir y rhain yn rhoddwyr heb guriad calon.
Gall rhoddwyr curiad calon a rhoddwyr heb guriad calon roi eu cornbilennau a meinweoedd eraill.
8A ydynt yn gallu eich cadw’n fyw ar beiriannau?
Na allant. Mae’r claf wedi marw. Mae’r peiriant anadlu’n cynhyrchu ocsigen i’r corff ac mae hyn yn golygu y bydd y galon yn parhau i guro a chylchredeg gwaed. Mae hyn yn cadw’r organau’n iach er mwyn medru eu trawsblannu. Pan fydd y peiriant anadlu’n cael ei ddiffodd bydd y galon yn rhoi’r gorau i guro ar ôl ychydig funudau.