Cymraeg | Sign up | Contact us



42Pam ddylwn i drafod fy nymuniadau gyda fy nheulu?

Er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn gwybod beth yw eich dymuniad ar ôl eich marwolaeth ac i gadarnhau neu helpu i hysbysu staff y GIG am eich dymuniadau. Pe baech yn cofrestru eich dymuniadau heb roi gwybod i’ch teulu, gallai fod yn syndod iddynt ar adeg anodd pan fyddant yn ceisio ymdopi â’u colled.

Os ydych chi’n teimlo ei fod yn bwnc anodd ei godi, gallech ddechrau trwy ddefnyddio’r llyfryn hwn neu stori am drawsblaniad ar y teledu neu mewn papur newydd fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth.

43Beth fyddai’n digwydd pe bai fy nheulu’n gwrthwynebu?

Gwyddom y bydd teuluoedd yn cytuno yn y rhan fwyaf o achosion os ydynt yn gwybod mai dyna oedd dymuniad y sawl a fu farw. Os bydd teulu, neu’r person agosaf at y person sydd wedi marw, yn gwrthwynebu i’r bwriad i roi organ er bod y person a fu farw wedi rhoi eu caniatâd, naill ai trwy ddweud wrth berthnasau agos neu staff clinigol, trwy gario cerdyn rhoi organau neu trwy gofrestru eu dymuniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, bydd y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn trafod y mater mewn ffordd sensitif â hwy. Byddant yn cael eu hannog i dderbyn dymuniadau’r person a fu farw ac esbonnir iddynt nad oes ganddynt hawl cyfreithiol i wrthod neu wrthwynebu’r dymuniadau hynny. Gall fod achosion, fodd bynnag, lle byddai’n amhriodol i fwrw ymlaen i roi’r organau.

44Beth fydd yn digwydd os nad oes gen i deulu na pherthnasau eraill?

Gallwch ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG ond er mwyn cyflawni’ch dymuniadau i roi organau, bydd angen i weithwyr iechyd proffesiynol siarad â rhywun arall adeg eich marwolaeth a all roi gwybod am eich hanes meddygol a chymdeithasol. Gall eich meddyg teulu wneud hyn ond argymhellir y dylech hefyd roi gwybod i’r person sydd agosaf atoch, hen ffrind neu gydweithiwr agos am eich penderfyniad.

45Beth yw perthynas gymhwysol?

Os nad yw dymuniadau person a fu farw’n hysbys, mae’r Deddfau Meinweoedd Dynol yn gosod pobl yn nhrefn pwysigrwydd eu perthynas â’r sawl a fu farw. Mae hyn yn galluogi’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd yn ceisio cael cais i dderbyn organau i wybod â phwy ddylent gysylltu ac ym mha drefn. Mae hyn yn amrywio o  ŵr neu wraig neu bartner (gan gynnwys partner sifil neu o’r un rhyw); rhiant neu blentyn; brawd neu chwaer a pherthnasau eraill neu hen ffrind.

46A ddylwn i roi fy nymuniadau yn fy ewyllys?

Na ddylech. Erbyn i’ch ewyllys gael ei darllen mae’n debygol o fod yn llawer rhy hwyr i chi fod yn rhoddwr gan fod rhaid tynnu organau a meinweoedd o’r corff o fewn 48 awr ar ôl y farwolaeth. Dyna pam ei bod mor bwysig rhoi gwybod i’r rhai hynny sydd agosaf atoch am eich dymuniad ac i’w chofnodi ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.

47A fydd yn bosibl i mi newid fy meddwl?

Bydd. Yr unig beth fydd angen i chi ei wneud fydd ffonio'r Llinell Rhoddwyr Organau ar 0845 60 60 400 neu fynd draw i'n gwefan - www.uktransplant.org.uk - a llenwi'r ffurflen yn gofyn i'ch enw gael ei dynnu oddi ar y gofrestr.

Os yw’n well gennych chi, gallwch ysgrifennu at NHS Organ Donor Register, UK Transplant, FREEPOST (SWB1474), Patchway, Bristol, BS34 8ZZ.

Os oes gennych chi gerdyn rhoddwr organau, cofiwch ei rwygo. Dywedwch wrth eich teulu eich bod wedi newid eich meddwl.

Back to organ donation - your questions...