40 Alla i adael fy nghorff ar gyfer addysg feddygol neu ymchwil ar ôl i mi roi fy organau?
Na chewch. Ni dderbynnir cyrff i ddibenion dysgu os yw'r organau wedi'u rhoi neu os oes archwiliad post-mortem wedi'i gynnal. Fodd bynnag, os mai dim ond y cornbilennau sydd i gael eu rhoi, gellir gadael y corff i ddibenion ymchwil.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am roi’r corff cyfan i ddibenion ymchwil neu ar gyfer archwiliadau anatomaidd, dylech gysylltu â’r mudiadau canlynol:
Yng Nghymru a Lloegr:
Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol
Finlaison House
15-17 Furnival Street
Llundain
EC4A 1AB
www.hta.gov.uk
Yn yr Alban:
Cysylltwch â'r ysgol feddygol agosaf:
Aberdeen
Department of Anatomy
Ffôn: 01224 274 320/01224 272 000
Dundee
Faculty of Life Sciences,
University of Dundee
Ffôn: 01382 344 206
Caeredin
Department of Biomedical Sciences,
University of Edinburgh
Ffôn: 0131 650 2997/0131 650 8318
Glasgow
The Anatomy Department,
University of Glasgow
Ffôn: 0141 330 4296/0141 339 8855
St Andrews
Department of Anatomy,
University of St Andrews
Ffôn: 01334 463 601
Yng Ngogledd Iwerddon:
The Department of Anatomy,
Queen's University Belfast,
Medical Biology Centre,
97 Lisburn Road,
Belfast BT9 7BL.
Ffôn: 028 9097 2131.
41A oes modd i deulu’r rhoddwr gael gwybod pwy oedd y derbynnydd?
Rhaid parchu cyfrinachedd bob amser, heblaw yn achos rhoddwyr byw lle mae’r rhoddwr a’r derbynnydd yn adnabod ei gilydd.
Os mai dyna yw dymuniad y teulu, gellir rhoi manylion byr iddynt megis oed a rhyw'r person neu’r bobl sydd wedi elwa ar y rhodd. Gall cleifion sy’n derbyn organau gael gwybodaeth debyg am eu rhoddwr. Nid yw’n bosibl bob amser rhoi gwybodaeth am y derbynnydd i deulu’r rhoddwr yn achos rhai mathau o drawsblaniadau meinwe.
Weithiau bydd y rheiny sy’n rhan o’r broses am gyfnewid llythyrau dienw i ddiolch neu i ddymuno’n dda trwy’r cydlynwyr trawsblannu ac mewn rhai achosion mae teulu’r rhoddwr a’r derbynnydd wedi cytuno i gyfarfod.