Cymraeg | Sign up | Contact us



37Mae perthynas i mi am fod yn rhoddwr. Beth sydd angen i mi ei wneud pan fyddant yn marw?

Rhowch wybod i’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gofalu am eich perthynas neu a fydd yn eich helpu’n syth ar ôl eu marwolaeth (gall hyn fod yn aelod o staff yr ysbyty, swyddog o’r heddlu, swyddog o swyddfa’r crwner neu feddyg teulu) eu bod yn dymuno rhoi organ neu feinwe. Gorau po gyntaf y byddwch yn rhoi gwybod i’r staff, gan y bydd hynny’n golygu ei bod yn fwy tebygol y caiff eu dymuniad ei wireddu.

38A fydd yr organau neu feinweoedd sy’n cael eu rhoi ar gyfer eu trawsblannu’n cael eu defnyddio i ddibenion ymchwil?

Ni fydd organau a meinweoedd na ellir eu trawsblannu yn cael eu defnyddio i ddibenion ymchwil feddygol neu wyddonol oni bai fod eich teulu wedi rhoi caniatâd penodol ar gyfer hynny.

39Beth yw’r gwahaniaeth rhwng rhoi organau a chadw organau?

Deilliodd problemau cadw organau oherwydd na chafwyd cydsyniad priodol gan rieni neu berthnasau i gadw organau a meinweoedd a dynnwyd mewn post-mortem er mwyn eu defnyddio er mwyn ymchwil a dibenion eraill. O ganlyniad i'r problemau hyn, newidiwyd y Ddeddf a chyflwynwydDeddf Meinweoedd Dynol 2004, a Deddf Meinweoedd Dynol (yr Alban) 2006. Mae organau a meinweoedd yn cael eu codi er mwyn eu trawsblannu'n unig os oes caniatād wedi'i roi.

Back to organ donation - your questions...