Cymraeg | Sign up | Contact us



29Alla i gytuno i roi i rai pobl a ddim i eraill?

Na allwch. Ni ellir derbyn organau a meinweoedd oni bai eu bod yn cael eu rhoi’n gwbl ddiamod. Ni ellir derbyn unrhyw amodau o ran derbynwyr posibl. Yr unig gyfyngiad a dderbynnir yw pa organau neu feinweoedd fydd yn cael eu rhoi.

30All fy organau a meinweoedd gael eu rhoi i glaf preifat?

Efallai. Mae cleifion sydd â hawl i gael triniaeth gan y GIG yn cael blaenoriaeth bob amser am organau a roddir. Mae’r rhain yn cynnwys dinasyddion y DU, aelodau Lluoedd Arfog ei Mawrhydi sy’n gwasanaethu dramor a chleifion sydd wedi eu cynnwys o fewn cytundeb iechyd cyfatebol gyda’r DU.

Ni fyddai cleifion eraill yn cael cynnig organ oni bai nad oes cleifion addas sydd â hawl i driniaeth gan y GIG ar gael. Gwneir pob ymdrech i sicrhau nad yw organ sydd wedi’i rhoi’n cael ei gwastraffu os oes rhywun a all elwa arni.

Bydd meinwe sy’n cael ei rhoi ar gael i unrhyw ysbyty yn y DU lle mae claf mewn angen.

31A yw bod yn rhoddwr yn golygu oedi yn nhrefniadau’r angladd?

Nac ydy. Bydd y llawdriniaeth ar y rhoddwr yn cael ei chynnal cyn gynted â phosibl ar ôl marwolaeth.

 

Back to organ donation - your questions...