Cymraeg | Sign up | Contact us



 1Beth yw rhoi organau?

Mae rhoi organ yn rhodd o organ i helpu rhywun arall sydd angen trawsblaniad. Mae haelioni rhoddwyr a’u teuluoedd yn galluogi bron i 3,000 o bobl yn y DU bob blwyddyn i ailafael yn eu bywydau.

 2Pa bryd y digwyddodd y trawsblaniadau organ cyntaf?

Trawsblannwyd aren yn llwyddiannus am y tro cyntaf ym 1954. Trawsblannwyd y galon gyntaf ym 1967.  

 3Pa organau y gellir eu trawsblannu?

Gellir trawsblannu arennau, y galon, iau neu afu, ysgyfaint, pancreas a'r coluddyn bach. Mae technegau'n gwella drwy'r amser a chyn hir byddwn yn gallu trawsblannu rhannau eraill o'r corff i helpu mwy fyth o bobl.

Back to organ donation - your questions...